kowydd y gwynt
1 y rwybyrwynt helynt hylaw
2 a gwrdd drwst a gerdda draw
3 gwr eres wyd garw i sain
4 drvd byd heb droed heb adain
5 aruthr ywr mor eres i throed
6 o bantri wybyr heb vntroed
7 a buaned i rhedy
8 y rawr hon dros y fron fry
9 dowaid ym diwid emyn
10 dy hynt diogleddwynt glyn
33 rhad tuw wyt ar hyd tayar
34 rhuad blin doriad blaen dar
11 ar hydoedd byd yr hedy
12 hin y fron bydd heno fry
13 och wr dos o ddywch aeron
14 yn glaer deg yn eglvr don
17 o hvd gwyn wenwyn weini
18 kaeth ywr wlad ai maeth i mi
15 ag erof fi nag eiriach
16 nag ofna er y bwa bach
25 ni boddi ni rybuddiwyd
26 ni dai ynglyn di onglog wyd
31 nith wyl drem noeth fawl dramawr
32 nith glyw mil nyth y glaw mawr
23 nith ladd mab mam gam gymwyll
24 nith lysg tan nith lesg twyll
21 na llv rhvgvl na llaw rhaglaw
22 na llafn glas na llif na glaw
19 nythod twyn kyn noethyd tail
20 ni thittia neb ni thattail
27 [143] nid rhaid march buan danad
28 na bont ar aber na bad
35 notter wybyr nattvr ebrwydd
36 neittiwr gwiw dros nowtir gwydd
45 hyrddwr chwardd breinniwr bryn
46 hwyl breinwynt heli bronwyn
41 drykkin y myddin mor
42 drythyllfab ar draethellfor
39 seythydd ar fron eira fry
40 seythig y singrig songry
37 sych nattvr kryadyr kraff
38 seirniog wybr siwrnai gobraff
47 gwae fi pan roddais i serch
48 o brvdd ar forfydd fevrferch
49 rhiain am gwnaeth yn gaethwlad
50 rhed fry rhod athy i thad
51 kvr y ddor par y gori
52 kyn y dydd im kenad i
53 a chais ffordd atti o chaid
54 a chan lais yr ychenaid
55 dewi or svgnav diwael
56 dowaid hyn im diwyd hael
57 er hyd yn y byd i bwy
58 koredwynt kowir ydwy
59 os prvdd yw fwyneb hebddi
60 os gwir ma anghowir hi
62 dos obrv dewis wybren
61 dos fry ty a gwely gwen
63 dos at forfydd felenllwyd
64 debre yn iach da wybren wyd
Davidd ap gwillim ai kant